Rheolau
1. Enw’r Gymdeithas yw ‘Cymdeithas Amaethyddol Llanbedr Pont Steffan’, ac mae’n cynnwys Llywydd, Is-lywydd, Noddwyr, Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd ac Aelodau.
2. Bydd pob un sy’n cyfrannu £10.00 y person neu £25.00 am aelodaeth dwbl yn fynyddol, yn dod yn Aelod o’r Gymdeithas.
3. Bydd unrhyw aelod a ganfyddir mewn ymgais i fanteisio ar y Gymdeithas yn fforffedu pob Premiwm sy’n ddyledus iddo/iddi, ac yn agored i gael ei d/ddiarddel o'r Gymdeithas.
4. Ni chaniateir i unrhyw Aelod gystadlu am unrhyw Bremiwm nad yw wedi talu ei d/thanysgrifad cyn y diwrnod mynediad.
5. Ni chaniateir trafodaeth wleidyddol nac unrhyw sylw sy’n tueddu i amharu ar benderfyniad y Beirniaid neu Ddyfarnwr, i'w cynnal mewn unrhyw gyfarfod o'r Gymdeithas.
6. Dylai Aelodau’r Pwyllgor gyfarfod yn rheolaidd yn ôl y gofyn. Rhaid cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas yn yr Hydref. Rhoddir rhybudd dyledus o’r cyfarfodydd hyn i’r aelodau.
7. Rhaid i’r unigolion sy’n gyfrifol am Stoc, sicrhau eu bod yn eu rhoi mewn man diogel a ddyrannwyd iddynt, a bod y rhif ar y tocyn yn cyfateb i’r stondin neu'r lloc y maent wedi’u gosod ynddo. Gofynnir yn arbennig i’r rhai sy'n gyfrifol am Stoc beidio â gadael y Stoc maent yn gyfrifol amdanynt ar unrhyw adeg yn ystod y Sioe. Ni fydd y Gymdeithas, ei swyddogion a’i gweision yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad neu gamgymeriadau y gwneir wrth osod, gorlannu neu sicrhau’r stoc.
8. Ni chaniateir i stiwardiaid arwain eu hanifeiliaid yn y Cylch Beirniadu gyda’u bathodynnau ymlaen.